Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol: ar-lein

Mai 04th 2020

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru yn falch o gyhoeddi cynnig i ysgolion i fod yn rhan o Ysgolion Creadigol Arweiniol ar-lein.

Mae’r cynllun arloesol hwn sydd, hyd yma wedi gweithio gyda thros 600 o ysgolion ledled Cymru, wedi cael ei ail-greu fel cyfle ar-lein. Bydd yn parhau i ddarparu cyfleoedd i athrawon a dysgwyr archwilio creadigrwydd ar draws pob maes dysgu, a thrwy dynnu ar sgiliau a gwybodaeth ein Arweinwyr Creadigol presennol.

Mae’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yn rhoi cyfle i archwilio dulliau creadigol o addysgu a dysgu gyda chefnogaeth Arweinwyr Creadigol.

Mae pob prosiect yn unigryw ac wedi’u cynllunio i helpu i fynd i’r afael â heriau penodol, a heriau y gallai ysgolion a dysgwyr fod yn eu hwynebu sydd fel arfer wedi’u nodi yng nghynllun datblygu’r ysgol. Mae’n meithrin creadigrwydd dysgwyr a chodi cyrhaeddiad sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, sef Llythrennedd, Rhifedd a lleihau effaith amddifadedd. Yn ogystal, mae’r cynllun wedi cefnogi ysgolion i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.

 

Cynnig ar-lein Ysgolion Creadigol Arweiniol – Beth allwch ddisgwyl

 Prosiect pwrpasol wedi’i deilwra i’ch dysgwyr yn y cyfnod hwn

  • Gweithio ochr yn ochr ag Arweinydd Creadigol ar-lein i gynllunio a darparu prosiect dysgu creadigol byr mewn ardal dysgu a nodir gennych chi
  • Cymryd rhan mewn sesiwn dysgu proffesiynol ar-lein, yn ffocysu ar ddatblygu arferion creadigol y meddwl, o dan arweiniad tîm Dysgu Creadigol, Cyngor Celfyddydau Cymru

Rydym yn rhagweld bydd y prosiect yn cynnwys rhwng 3 a 4 sesiwn ar-lein dros gyfnod o dair wythnos. Bydd y prosiect yn cefnogi disgyblion i ddatblygu a rhannu eu dysgu rhwng sesiynau mewn ffyrdd dychmygus a chreadigol.

 

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys manylion am sut i wneud cais, cliciwch yma https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/ysgolion-creadigol-arweiniol-ar-lein-galwad-ar-ysgolion-i-gymryd-rhan

Rhannu’r post hwn

Gwefan wedi’i dylunio a’i datblygu gan Spindogs