Polisi Preifatrwydd – Gwefannau EAS a Systemau Adborth Dysgu Proffesiynol

Mae’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (y GCA) a’r Awdurdod Lleol sy’n aelodau ohono wedi ymrwymo i amddiffyn a pharchu eich preifatrwydd.  Byddwn yn casglu a phrosesu data personol a bydd y polisi hwn yn rhoi gwybod i chi sut byddwn yn trin y wybodaeth byddwn yn ei chasglu a’i phrosesu pan fyddwch yn ymweld â’n gwefannau ac yn dweud wrthych chi am eich hawliau preifatrwydd a sut mae’r gyfraith yn eich diogelu chi.

Mae’n bwysig eich bod chi’n darllen y polisi hwn fel eich bod yn gwbl ymwybodol o sut a pham yr ydym yn defnyddio eich data.

Ni yw’r rheolwr a ni sy’n gyfrifol am ei data personol.

Diweddarwyd y fersiwn hon ddiwethaf ar 1 Medi 2022.

Pa wybodaeth byddwn ni’n ei chasglu, ei defnyddio, ei chadw, ei phrosesu a’i rhannu?

Gallwch bori gwefan GCA i weld gwybodaeth graidd am y sefydliad heb ddatgelu unrhyw wybodaeth amdanoch chi’ch hun. Mae’n ofynnol i chi fewngofnodi i blatfform Thinqi gan ddefnyddio cyfrif Hwb i bori neu gyrchu adnoddau a gasglwyd gan yr EAS, neu archebu digwyddiadau.Mae data personol, neu wybodaeth bersonol, yn golygu unrhyw wybodaeth y gellir adnabod yr unigolyn hwnnw ohoni.

Mae’r mathau o wybodaeth y gallwn ni ei chasglu, ei defnyddio, ei phrosesu a’i rhannu yn cynnwys: eich enw, eich teitl, eich cyfeiriad post, eich cyfeiriad e-bost, eich rhif ffôn a chyswllt eich ysgol. I’ch galluogi i archebu lle ar gwrs hyfforddi a hysbysebir ar y wefan Datblygiad Proffesiynol, bydd angen darparu gwybodaeth bersonol benodol.

Efallai y byddwn ni hefyd yn casglu gwybodaeth am eich defnydd o’r gwefannau gan ddefnyddio cwcis a thechnoleg arall.  I’r perwyl hwnnw, rydym yn defnyddio’ch cyfeiriad IP (cyfres o rifau sy’n nodi cyfrifiadur ar y rhyngrwyd) i gasglu, ymhlith pethau eraill, data traffig ar y rhyngrwyd a data ynghylch eich math o borwr a’ch cyfrifiadur. Defnyddiwn y wybodaeth hon i fesur a dadansoddi gwybodaeth am ymweliadau â’r gwefannau, i deilwra’r gwefannau i’w gwneud yn well i ymwelwyr a gwella perfformiad technegol. Os nad ydych yn dymuno derbyn cwcis, gallwch eu gwrthod trwy ddefnyddio gosodiadau eich porwr ar yr amod nad oes eu hangen i ddarparu ein gwefannau neu ein gwasanaethau i ymwelwyr. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Cwcis.

Sut bydd y GCA yn defnyddio’r wybodaeth hon?

Bydd y GCA yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i wneud y canlynol:

  • Archebu lle i chi yn un o’n digwyddiadau datblygiad proffesiynol;
  • Creu anfonebau a/neu gofnodion dyddlyfr ynghylch ffioedd digwyddiadau/taliadau a chasglu arian gennych chi;
  • Hysbysu rheolwr y digwyddiad am unrhyw ofynion arbennig sydd gennych chi neu gymorth y bydd arnoch chi ei angen;
  • Llenwi cyfrifon defnyddwyr â gwybodaeth sy’n berthnasol i’r defnyddwyr hynny;
  • Rheoli ein perthynas â chi (eich hysbysu am newidiadau i’n telerau neu ein polisi preifatrwydd;
  • Gweinyddu ac amddiffyn ein busnes a’r gwefannau.

Gallwn ni hefyd ddefnyddio’r wybodaeth hon:

  • Pan fo’n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (neu rai trydydd parti) ac mewn sefyllfa ble na fydd eich buddiannau a’ch hawliau sylfaenol yn goresgyn y buddiannau hynny;
  • Os bydd angen i ni gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol.

Cwcis: Gallwch osod eich porwr i wrthod pob cwci pori neu rai cwcis pori, neu i’ch rhybuddio pan fydd gwefannau yn gosod neu’n cyrchu cwcis. Os byddwch yn analluogi neu’n gwrthod cwcis, nodwch y gall rhai rhannau o’r wefan hon ddod yn anhygyrch neu beidio â gweithredu’n iawn i gael rhagor o wybodaeth am y cwcis rydym ni’n eu defnyddio, darllenwch ein Polisi Cwcis.

Y sail gyfreithlon i’n defnydd o’r wybodaeth hon

Mae’n rhaid i ni fod â sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth bersonol. Fe wnaiff hyn amrywio yn unol â’r amgylchiadau, ond mae enghreifftiau nodweddiadol yn cynnwys;

  • Mae’n ofynnol er mwyn llunio contract neu berfformio contract gyda chi;
  • Rydych chi wedi cydsynio y gellir prosesu eich data ar gyfer un diben penodol neu fwy nag un diben penodol;
  • Mae’n ofynnol er mwyn cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd i’r rheolwr.

Rhannu’r wybodaeth hon a diogelwch data

Byddwn yn diogelu ansawdd a chywirdeb eich gwybodaeth bersonol, yn unol â’r gyfraith bresennol. Rydym wedi gweithredu technolegau a pholisïau diogelwch i ddiogelu data personol ein defnyddwyr rhag mynediad diawdurdod, defnydd amhriodol ohonynt, defnydd amhriodol ohonynt, eu newid, eu dinistrio’n anghyfreithlon neu’n ddamweiniol a’u colli’n ddamweiniol.. Yn ogystal, rydym yn cyfyngu ar fynediad i’ch data personol i’r gweithwyr, yr asiantau, y contractwyr a’r trydydd partïon eraill hynny y mae angen iddynt wybod amdanynt o safbwynt busnes. Byddant yn prosesu eich data personol yn unol â’n cyfarwyddiadau yn unig, ac mae ganddynt ddyletswydd i gadw cyfrinachedd.

Rydym ni wedi sefydlu gweithdrefnau i ddelio ag unrhyw amheuaeth o fynediad heb awdurdod at ddata personol ac fe wnawn ni eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol am unrhyw achos o fynediad heb awdurdod at ddata os yw’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Byddwn yn parhau i wella ein gweithdrefnau diogelwch wrth i dechnoleg newydd ddod ar gael.

Byddwn ni’n cadw data personol ynghylch unigolion tra byddant yn gysylltiedig ag ysgol o fewn rhanbarth y GCA.  Ar ôl cael cadarnhad fod unigolyn wedi gadael sefydliad, caiff ei gofnodion eu dileu yn unol â’r gyfraith bresennol.

Rhannu a datgelu gwybodaeth bersonol

Bydd y Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn rhannu data dienw a chyfanredol â’r awdurdodau lleol sy’n aelodau ohono yn unig, ac ni wnawn ni ddatgelu, gwerthu na rhannu eich gwybodaeth bersonol ag unrhyw un, na defnyddio data personol ar gyfer unrhyw ddiben sy’n anghydnaws â diben gwreiddiol casglu’r data hynny.

Ni wnawn ni drosglwyddo eich data personol oddi allan i Ardal Economaidd Ewrop.

Eich hawliau

Mae gennych chi hawliau penodol mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol.  Gallwch chi ofyn i ni ar unrhyw adeg i roi copi i chi o’r wybodaeth bersonol rydych chi wedi’i rhoi i ni, ac a gedwir gan y GCA, ac mae gennych chi hawl i ofyn i ni am gopi o’r wybodaeth hon ar ffurf strwythuredig a ddefnyddir yn gyffredin ac y gellir ei brosesu gan ddefnyddio cyfrifiadur.   Os ydych chi’n credu fod y data personol sydd gennym ni amdanoch chi yn anghywir neu’n anghyflawn, gallwch ofyn i ni eu cywiro neu eu cwblhau.

Dan rai amgylchiadau, mae gennych chi hawl hefyd i wrthwynebu i ni brosesu eich data a gallwch chi ofyn i ni gyfyngu ar ein defnydd o’ch data a’u dileu.  Mae rhai eithriadau i’r hawliau hyn, fodd bynnag.  Er enghraifft, ni fydd yn bosibl i ni ddileu eich data os yw’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ei gadw neu os fyddwn ni’n cadw’r data hynny mewn cysylltiad â chontract â chi. Yn yr un modd, gellir gwrthod mynediad at eich data os byddai’r wybodaeth sydd ar gael yn datgelu gwybodaeth bersonol am unigolyn arall neu os cawn ein hatal gan y gyfraith rhag datgelu gwybodaeth o’r fath.

Dylai unrhyw gais i weld unrhyw ddata personol sydd gan y GCA gael ei gyfeirio yn y lle cyntaf at awdurdod lleol y defnyddiwr neu’r GCA. Rhestrir manylion cysylltu’r GCA isod.

Ymwelwyr â’n gwefannau

Pan fydd rhywun yn ymweld ag unrhyw un o wefannau’r GCA, efallai y byddwn ni’n defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Ein bwriad wrth wneud hyn yw canfod pethau megis nifer yr ymwelwyr â rhannau amrywiol y wefan. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei phrosesu’n gwbl ddienw ac nid oes modd adnabod neb yn unigol ohoni. Nid ydym ni yn ceisio canfod pwy sy’n ymweld â’n gwefan, ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud hynny chwaith. Os byddwn yn dymuno casglu gwybodaeth adnabyddadwy bersonol drwy ein gwefan, byddwn yn agored am hyn. Wrth gasglu gwybodaeth bersonol, byddwn yn nodi hynny’n glir ac yn egluro beth rydym yn bwriadu ei wneud â’r wybodaeth hon.

Defnydd o gwcis

Ffeiliau testun bach yw cwcis y bydd gwefannau byddwch chi’n ymweld â nhw yn eu hanfon i’ch cyfrifiadur neu’ch dyfais symudol. Maen nhw’n helpu gwefannau i weithio’n well ac yn rhoi gwybodaeth i berchnogion y wefan. Er enghraifft, rydym yn defnyddio cwcis iaith er mwyn gwybod ym mha iaith yr hoffech weld y wefan. Drwy ddeall sut mae pobl yn defnyddio’n gwefan, gallwn ei gwneud yn haws ei defnyddio a chynnig cynnwys sy’n diwallu anghenion pobl yn well. Mae’r wybodaeth y byddwn yn ei chasglu yn cynnwys cyfeiriad IP, tudalennau yr ymwelir â nhw, y porwr a’r system weithredu. Ni chaiff y data eu defnyddio i adnabod unrhyw ddefnyddwyr yn bersonol.

Pa wybodaeth fyddwn ni’n ei chasglu?

Efallai y byddwn yn monitro gweithgarwch defnyddwyr y wefan hon er mwyn gwella’r cynnwys, gan ddefnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi’r we a ddarperir gan Google Inc (‘Google’).  Mae Google Analytics yn defnyddio ‘cwcis’ a chod JavaScript i helpu i ddadansoddi sut mae defnyddwyr yn defnyddio gwefannau.  Bydd yr wybodaeth a gynhyrchir am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP dienw) yn cael ei throsglwyddo i weinyddion Google yn yr Unol Daleithiau a’i storio arnynt.

Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon er mwyn llunio adroddiadau am weithgarwch defnyddwyr y wefan hon. Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd parti pan fydd y gyfraith yn mynnu y dylai wneud hynny, neu pan fydd trydydd parti yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google.

Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata eraill a gedwid yn flaenorol ganddo. Gallwch wrthod defnyddio cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr.  Daliwch sylw: os caiff cwcis eu hanalluogi, efallai na fyddwch chi’n gallu defnyddio nodweddion llawn y wefan hon.  Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn rhoi caniatâd i Google brosesu data amdanoch chi yn y dull ac i’r dibenion a nodir uchod.

Cwcis a ddefnyddir yn www.sewaleseas.org.uk

Cwcis Sesiwn

 ENW’R CWCI DARPARWR MATH TERFYN DISGRIFIAD O DDIBEN Y CWCI: ANFONIR DATA I:
HttpOnly sewaleseas.org.uk HTTP Sesiwn Mae’n sicrhau diogelwch ymwelwyr wrth bori trwy atal ceisiadau traws-wefan ffug. Mae’r cwci hwn yn hanfodol o ran diogelwch y wefan a’r ymwelydd. Y Deyrnas Unedig
PHPSESSID sewaleseas.org.uk HTTP Sesiwn Mae’n cynnal cyflwr sesiwn defnyddiwr ar draws ceisiadau tudalennau. Y Deyrnas Unedig
rc::a

 

google.com

 

HTTP Parhaus

 

Defnyddir y cwci hwn i wahaniaethu rhwng pobl a botiaid. Mae hyn yn fuddiol i’r wefan, er mwyn llunio adroddiadau dilys am eu defnydd o’r wefan. Yr Unol Daleithiau
rc::c google.com HTTP Sesiwn Defnyddir y cwci hwn i wahaniaethu rhwng pobl a botiaid.

 

Yr Unol Daleithiau
_ga sewaleseas.org.uk HTTP 2 Flynedd Mae’n cofrestru ID unigryw a ddefnyddir i greu data ystadegol ynghylch dull yr ymwelydd o ddefnyddio’r wefan. Yr Unol Daleithiau
_gat sewaleseas.org.uk HTTP 1 Diwrnod Defnyddir gan Google Analytics i throtlo’r gyfradd ceisiadau.

 

Yr Unol Daleithiau
_gid

 

sewaleseas.org.uk HTTP 1 Diwrnod Mae’n cofrestru ID unigryw a ddefnyddir i greu data ystadegol ynghylch dull yr ymwelydd o ddefnyddio’r wefan.

 

Yr Unol Daleithiau

Caiff y cwcis hyn eu defnyddio i gasglu gwybodaeth am sut y mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth i greu adroddiadau a helpu gwella’r safle. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth mewn ffurf dienw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr i’r safle, o ble mae’r ymwelwyr yn dod a’r tudalennau a aethant iddynt.

Os nad ydych chi eisiau i’ch porwr dderbyn cwcis, gallwch ddiffodd y dewis i dderbyn cwcis yng ngosodiadau eich porwr. Nodwch: Gall gwneud hyn achosi i rai adrannau neu nodweddion o’r wefan beidio a gweithio neu ymddangos yn gywir.

Cwestiynau neu awgrymiadau

If you have any questions, comments, requests or suggestions regarding this policy or have any concerns about the processing of your personal data by the Education Achievement Service and/or its member LAs please contact us, details are listed below or contact:- the Information Commissioner’s Office (ICO) (www.ico.org.uk).

Manylion Cysylltu

Trwy’r Post
Y Gwasanaeth Cyflawni Addysg
Porth Tredomen
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7EH

Trwy E-bost
business.support@sewaleseas.org.uk

Trwy Ffonio
01443 864963

Oriau Agor
Monday to Friday 8.30am to 5pm

Rhannwch y dudalen hon

Gwefan wedi’i dylunio a’i datblygu gan Spindogs