Mae'r adnodd Cefnogi Ein Hysgolion wedi cael ei gynllunio i alluogi mynediad haws at ystod o wybodaeth a dogfennau sydd ar gael i gefnogi ysgolion yn ystod y sefyllfa bresennol. Mae'n darparu ein ffynhonnell wybodaeth sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd ar gyfer ysgolion a chyrff llywodraethu.

Cefnogi ein Hysgolion

Pwrpas y wefan hon yw bod yn ‘siop un stop’ ar gyfer llywodraethwyr presennol, ac ar gyfer darpar lywodraethwyr sy’n ansicr ynghylch beth sydd ei angen ar y rôl. Dymunwn sicrhau eich bod yn cael cymaint o wybodaeth â phosibl am fanteision dod yn llywodraethwr ysgol, a darparu cymorth, gwybodaeth a hyfforddiant hygyrch i’ch galluogi i gyflawni rôl llywodraethwr yn effeithiol.

Llywodraethwyr Ysgolion

Mae gwefan y NMS yn darparu gwybodaeth am yr hyn rydym yn ei gynnig mewn lleoliadau nas cynhelir gan gynnwys dolenni defnyddiol i ddogfennau a gwefannau allweddol.

Lleoliadau Nas Cynhelir y GCA

Mae Consortia Addysg Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i godi safonau ar draws pob agwedd ar addysg yng Nghymru. Bydd y wefan hon yn darparu gwybodaeth am ystod o gyfleoedd dysgu proffesiynol traws-ranbarthol sydd ar gael i holl staff Cymru.

Consortia Addysg Cymru

Croeso i Wasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) De Ddwyrain Cymru

Ceisio Rhagoriaeth mewn Ysgolion ar draws y Rhanbarth

Gwasanaeth addysg integredig yw'r GCA sy'n cefnogi ac yn herio ysgolion yn Ne-ddwyrain Cymru i geisio rhagoriaeth.

Yn gweithio gyda chynghorau Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen, ein nod yw gwella addysg a gwella gwasanaethau rheng flaen.

Caiff hyn ei gyflawni drwy ganolbwyntio ar wella, newid, cefnogaeth a hyfforddiant ac mae'r gwaith wedi'i seilio ar werthoedd craiff rhagoriaeth, arloesedd, uniondeb, cydweithio ac atebolrwydd.

Gwefan wedi’i dylunio a’i datblygu gan Spindogs