Ebrill 20th 2020
Cyhoeddi cynnwys addysgol wedi’i deilwra i blant 3-14 oed.
Ar y diwrnod y byddai tymor newydd yr ysgol fod i ailgychwyn, mae arlwy addysg BBC Cymru Wales yn cael ei ehangu ymhellach heddiw wrth i wersi dyddiol gael eu cyhoeddi i blant ysgol 3-14 oed yng Nghymru.
O heddiw, bydd gwersi i ddisgyblion yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi ar wasanaeth newydd Gwersi Dyddiol Bitesize ar bbc.co.uk/bitesize Bydd y set gyntaf o wersi yn canolbwyntio ar y tri phwnc craidd – Saesneg, Cymraeg a Mathemateg ar gyfer dysgwyr Cynradd ac Uwchradd – yn ogystal â rhai gwersi ychwanegol o bryd i’w gilydd ar bynciau amrywiol.
https://www.bbc.co.uk/mediacentre/latestnews/2020/wales-education-begins