Lansio arolwg mwyaf erioed o’r gweithlu addysg yng Nghymru

25th 2021

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), ynghyd a’u partneriaid sef Llywodraeth Cymru, cyflogwyr, undebau llafur a chorfforaethau allweddol eraill yng Nghymru, wedi lansio’r arolwg mwyaf erioed o’r gweithlu addysg yng Nghymru.

Cafodd yr arolwg gweithlu cenedlaethol ei lansio yn Chwefror 2021 ac agor tan 9 Ebrill 2021. Mae holl ymarferwyr CGA wedi derbyn gwahoddiad i’w gwblhau. Gall wneud hynny drwy’r ddolen ganlynol: https://www.ewc.wales/aga-ews/index.php/cy/

Ar gyfer lansio’r arolwg, mae CGA wedi gweithio gyda’r partneriaid canlynol:

  • Llywodraeth Cymru
  • Sefydliadau cyflogwyr: Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig, Colegau Cymru, CyngorCymreig Gwasanaethau Ieuenctid Cymru (CWVYS), Esgobaethau’r Eglwys yn Nghymru, Safonau Addysg Hyfforddiant (ETS) Cymru, GPSI: PYOG, Ffederasiwn Hyfforddiant
    Cenedlaethol Cymru (NFTW), CLILC
  • Undebau Llafur: Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL), GMB, Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT), NASUWT Cymru, NEU Cymru, UCAC, UCU, UNISON Cymru, Uno’r Undeb, Voice the Union

Caiff pob un o 80,000 o ymarferwyr cofrestredig CGA mewn ysgolion, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a gwaith ieuenctid y cyfle i ddylanwadu ar lunio polisi yng Nghymru drwy ddweud eu dweud am y prif faterion sy’n eu heffeithio, megis baich gwaith, lles, hyfforddiant ac effaith Covid-19.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn amser digynsail ar gyfer staff sy’n addysgu ein pobl ifanc a dysgwr. Rwy’n awyddus i dderbyn eu hadborth ar y materion a’r heriau maent yn eu hwynebu, felly rwy’n annog pawb i gymryd peth amser i gwblhau’r arolwg pwysig yma”.

Ychwanegodd Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn:

“Dyma’r tro cyntaf i arolwg o’r faint yma cael ei gynnal yng Nghymru, a gyda chefnogaeth gymaint o bartneriaid. Mae’n gyfle i ni ddadansoddi a chysidro rhai o’r prif faterion mae’r gweithlu’n delio gyda phob dydd”.

Rhannu’r post hwn

Gwefan wedi’i dylunio a’i datblygu gan Spindogs