Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Tîm o ymgynghorwyr cynradd ac uwchradd amlddisgyblaeth sy’n gweithio mewn ysgolion i gefnogi arweinyddiaeth, addysgu, dysgu ac asesu ar draws y disgyblaethau iaith amrywiol mewn ysgolion Cymraeg a Saesneg yw’r tîm Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

Ein nod yw cefnogi addysgu effeithiol sgiliau iaith a llythrennedd ar draws holl feysydd y cwricwlwm a datblygu rhaglen o astudio sy’n gyfoethog, yn ddiddorol ac yn heriol. Mae’r tîm yn cefnogi cyflwyniad y Strategaeth Llythrennedd ranbarthol, y Strategaeth Addysg Gymraeg Ranbarthol a’r Strategaeth Dyfodol Byd-eang ar draws y rhanbarth. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd ar draws disgyblaethau yn unol ag ymagwedd y Cwricwlwm i Gymru at ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, rhannu ymagweddau addysgeg i gefnogi datblygiad cwricwlwm sy’n gyfoethog o ran iaith.

'Iaith yw hanfod meddwl ac mae’n hanfodol nid yn unig o ran cyfathrebu effeithiol ond o ran dysgu, myfyrio a chreadigrwydd.'

Professor Graham Donaldson

Gwefan wedi’i dylunio a’i datblygu gan Spindogs