{"id":1747,"date":"2024-05-24T14:01:56","date_gmt":"2024-05-24T14:01:56","guid":{"rendered":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/?page_id=1747"},"modified":"2024-05-24T14:02:29","modified_gmt":"2024-05-24T14:02:29","slug":"polisi-gwrth-hiliaeth","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/polisi-gwrth-hiliaeth\/","title":{"rendered":"Polisi Gwrth-hiliaeth"},"content":{"rendered":"<h4><strong>Datganiad Polisi Gwrth-hiliaeth y GCA<\/strong><\/h4>\n<p>Mae Gwasanaeth Cyflawni Addysg De-ddwyrain Cymru (y GCA) wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol ac i gefnogi gweithrediad Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 bodloni ein gofynion statudol, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, byddwn yn dangos ymhellach ein hymrwymiad ac yn atgyfnerthu ein bwriadau i gael gwared ar bob achos o hiliaeth a gwahaniaethu anghyfiawn a mynd i&#8217;r afael \u00e2 hwy. Mae&#8217;r GCA yn ymrwymo i roi dull gwrth-hiliol wrth galon ein gwaith; mae hyn yn golygu cydnabod, herio a mynd i&#8217;r afael yn effeithiol \u00e2 phob math o hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol lle bynnag y byddwn yn dod o hyd iddo, ar y cyd ac yn unigol.<\/p>\n<p>Credwn fod gan yr holl staff, defnyddwyr gwasanaeth, aelodau, ymwelwyr a chontractwyr yr hawl i gael eu trin \u00e2 thegwch a pharch a byddwn yn gweithio i sicrhau bod gennym ddiwylliant sy&#8217;n hyrwyddo ac yn gweithredu&#8217;r egwyddor hon yn weithredol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwasanaeth GCA cyfan yn gyfrifol am gymhwyso egwyddorion Gwrth-hiliaeth i&#8217;w polis\u00efau, eu hymarfer a&#8217;u hymddygiad. Rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i ddarparu arweiniad a hyfforddiant ar faterion yn ymwneud \u00e2 hil i&#8217;n staff i&#8217;w galluogi i fabwysiadu arfer gorau. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein ffordd o weithio yn rhydd o ragfarnau ac ymddygiadau gwahaniaethol a\u2019n bod yn dod yn sefydliad gwrth-hiliol sy\u2019n cofleidio ac yn dathlu amrywiaeth Cymru. Gwyddom fod hiliaeth (bwriadol ac anfwriadol) ac anghydraddoldeb hiliol yn parhau i fodoli, a chredwn yn gryf fod yn rhaid i ni chwarae r\u00f4l wrth fynd i&#8217;r afael \u00e2 hyn yn weithredol o fewn y sector addysg.<\/p>\n<p>Yn sail i&#8217;n gwaith, rydym wedi dewis nodi, yn glir ac yn syml, yr hyn a olygwn pan ddywedwn ein bod yn sefydliad gwrth-hiliol. Mae hyn yn eistedd ochr yn ochr \u00e2&#8217;n gweledigaeth, ein gwerthoedd sefydliadol, ein polis\u00efau a&#8217;n harferion. Dyma ein datganiad i aelodau, staff, a&#8217;r gymuned ehangach o&#8217;n hymrwymiad i ddod yn weithredol wrth-hiliaeth. Mae pob aelod o staff yn rhannu&#8217;r ymrwymiad hwn ac yn cymryd cyfrifoldeb personol amdano.<\/p>\n<p>Rydym wedi llofnodi&#8217;r addewid Dim Hiliaeth Cymru sy&#8217;n hyrwyddo dim goddefgarwch i hiliaeth ar draws y sefydliad.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r GCA yn ymrwymo i hyrwyddo agwedd dim goddefgarwch tuag at hiliaeth. Mae hyn yn golygu&#8217;r canlynol:<\/p>\n<p>\u2022 Byddwn yn gwrthsefyll hiliaeth ac yn hyrwyddo cymdeithas fwy cynhwysol a chyfartal i bawb.<br \/>\n\u2022 Ni fyddwn yn goddef unrhyw ragfarn hiliol, camwahaniaethu, aflonyddwch, erledigaeth, cam-drin na thrais yn erbyn unrhyw unigolyn.<\/p>\n<p>Byddwn yn cydsefyll, yn dod at ein gilydd, ac yn gwrthwynebu hiliaeth yn ei holl ffurfiau.<br \/>\n\u2022 Byddwn yn hyrwyddo cysylltiadau hiliol da rhwng pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol.<br \/>\n\u2022 Byddwn yn hybu cyfleoedd cyfartal a theg i bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol.<br \/>\n\u2022 Byddwn yn diddymu unrhyw arferion anghyfreithlon mewn perthynas ag aflonyddwch, cam-drin, erledigaeth a gwahaniaethu ar sail hil.<\/p>\n<p><strong>Cyfrifoldebau<\/strong><\/p>\n<p>Mae gan bawb sy&#8217;n cynrychioli&#8217;r GCA ar bob lefel gyfrifoldebau penodol. Mae perthnasoedd ac arferion da a chyflawni cymuned gynhwysol yn dibynnu ar bob aelod o\u2019r GCA i drin eraill \u00e2 pharch ac urddas. Felly, disgwylir i bawb sy\u2019n cynrychioli\u2019r GCA wneud y canlynol:<br \/>\n1. Cydweithredu \u00e2 mesurau i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a dileu arferion ac ymddygiad gwahaniaethol.<br \/>\n2. Trin eraill mewn modd teg ac anwahaniaethol bob amser, gan barchu gwahaniaethau.<br \/>\n3. Peidio \u00e2 gwahaniaethu mewn sefyllfaoedd lle gallai fod gan unigolion b\u0175er dros eraill.<br \/>\n4. Peidio \u00e2 cheisio ysgogi neu annog pobl eraill i ymddwyn mewn ffyrdd gwahaniaethol.<br \/>\n5. Peidio ag erlid neu geisio erlid unrhyw un sydd wedi lleisio cwynion am gamwahaniaethu, aflonyddwch, erledigaeth neu gam-drin, neu sydd wedi darparu gwybodaeth yngl\u0177n \u00e2 chamwahaniaethu.<\/p>\n<p><strong>Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth y GCA<\/strong><\/p>\n<p>Prif amcan Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth y GCA yw codi ymwybyddiaeth o wrth-hiliaeth ar draws rhanbarth y GCA a chefnogi&#8217;r holl randdeiliaid i gymryd camau cadarnhaol a chamau gweithredu tuag at wireddu gweledigaeth &#8216;Cymru sy&#8217;n wrth-hiliaeth\u2019.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cynllun gweithredu yn amlinellu 5 nod allweddol sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2 Chynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru:<br \/>\n1) Gwella ein dysgu a\u2019n dealltwriaeth o hiliaeth a\u2019i heffaith, gan barhau i ddatblygu a hyrwyddo diwylliant sefydliadol mwy cynhwysol sy\u2019n blaenoriaethu gweithredoedd ac ymddygiadau gwrth-hiliaeth.<br \/>\n2) Adolygu polis\u00efau, gweithdrefnau ac arferion i sicrhau eu bod yn amlwg yn wrth-hiliaeth ac adolygu ein polisi ar gyfer ymateb i hiliaeth yn y sefydliad.<br \/>\n3) Rhoi cymorth i ysgolion i sicrhau bod straeon, cyfraniadau a hanesion Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu haddysgu ym mhob rhan o&#8217;r Cwricwlwm diwygiedig i Gymru.<br \/>\n4) Creu gweithlu addysgu gwrth-hiliol trwy wreiddio dysgu proffesiynol gwrth-hiliaeth.<\/p>\n<p>5) Sicrhau bod holl adnoddau addysgol y GCA a\u2019r deunyddiau ategol a ariennir yn wrth-hiliol ac yn adlewyrchu dyfnder gwirioneddol ein treftadaeth ddiwylliannol amrywiol tra\u2019n osgoi stereoteipio a neilltuo diwylliannol.<\/p>\n<p>Er mwyn cyflawni\u2019r newid hwn, mae\u2019n hanfodol ein bod yn gweithio gyda chymunedau a sefydliadau amrywiol yng Nghymru wrth gynllunio, dylunio a chyflawni ein gweithgareddau, a pharhau i ddatblygu\u2019r cysylltiadau hyn a sefydlu sianeli i gefnogi\u2019r cydweithio hwn.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Datganiad Polisi Gwrth-hiliaeth y GCA Mae Gwasanaeth Cyflawni Addysg De-ddwyrain Cymru (y GCA) wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol ac i gefnogi gweithrediad Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru. Yn ogystal \u00e2 bodloni ein gofynion statudol, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, byddwn yn dangos ymhellach ein hymrwymiad ac yn atgyfnerthu ein bwriadau i gael gwared ar [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-1747","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1747","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1747"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1747\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1749,"href":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1747\/revisions\/1749"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1747"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}