{"id":1220,"date":"2021-11-09T12:15:35","date_gmt":"2021-11-09T12:15:35","guid":{"rendered":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/?p=1220"},"modified":"2025-02-25T12:49:46","modified_gmt":"2025-02-25T12:49:46","slug":"cynllun-newydd-i-recriwtio-mwy-o-athrawon-duon-asiaidd-ac-ethnig-lleiafrifol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/cynllun-newydd-i-recriwtio-mwy-o-athrawon-duon-asiaidd-ac-ethnig-lleiafrifol\/","title":{"rendered":"Cynllun newydd i recriwtio mwy o athrawon Duon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol"},"content":{"rendered":"<p>Daw hyn fel rhan o gynllun ehangach a gyhoeddwyd ar 22 Hydref 2021 a fydd yn canolbwyntio ar gynyddu amrywiaeth y newydd-ddyfodiaid i gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon.<\/p>\n<p>Canfu\u00a0<a href=\"https:\/\/www.ewc.wales\/site\/index.php\/cy\/documents-cym\/research-and-statistics-1\/annual-statistics-digest-1\/763-stats-digest-welsh-ewc\/file.html\">Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg<\/a>\u00a0mai dim ond 1.3% o athrawon ysgol yng Nghymru a nododd eu bod o gefndir ethnig lleiafrifol, o gymharu \u00e2 12% o ddysgwyr.<\/p>\n<p>Bydd y Cynllun yn cynnwys targedu hyrwyddo addysgu fel gyrfa i fwy o bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol. Bydd hefyd yn ofynnol i gyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon weithio tuag at recriwtio canran o fyfyrwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.<\/p>\n<p>Am y tro cyntaf, bydd cymhellion ariannol ychwanegol yn cael eu cyflwyno hefyd i ddenu mwy o athrawon dan hyfforddiant o leiafrifoedd ethnig, o 2022 ymlaen. Ar hyn o bryd mae cymhellion yn bodoli ar gyfer pynciau lle mae galw mawr am athrawon, fel Mathemateg a\u2019r gwyddorau, yn ogystal \u00e2\u2019r cynllun\u00a0<em>Iaith Athrawon Yfory<\/em>\u00a0i ddenu mwy o athrawon cyfrwng Cymraeg.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwaith yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i\u2019r argymhellion gan y\u00a0<a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/y-gweinidog-yn-croesawur-adroddiad-addysg-ar-gymunedau-duon-asiaidd-lleiafrifoedd-ethnig\">gweithgor<\/a>\u00a0sydd wedi cynghori ar Gymunedau Duon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, Cyfraniadau a Chynefin yn y Cwricwlwm newydd i ysgolion.<\/p>\n<p>Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:<\/p>\n<blockquote><p>Mae&#8217;n hanfodol ein bod ni\u2019n cynyddu amrywiaeth ein gweithlu addysgu i gefnogi ein dysgwyr yn well. I wneud hyn, mae&#8217;n rhaid i ni ddeall y rhwystrau sy&#8217;n atal mwy o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol rhag mynd i addysgu, a gweithredu i sicrhau bod y rhwystrau hynny&#8217;n cael eu dileu.<\/p>\n<p>Yn syml, nid yw\u2019n ddigon da bod llai na 2% o athrawon o gefndir ethnig lleiafrifol. Dyma pam rydyn ni&#8217;n lansio&#8217;r cynllun yma y mae ei wir angen, fel bod gennym ni weithlu sy&#8217;n adlewyrchu poblogaeth Cymru yn well.<\/p>\n<p>Yn bwysig, dylai cynyddu amrywiaeth mewn ysgolion fod yn berthnasol nid yn unig i ardaloedd lle mae cyfran uwch o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifoedd, ond ledled Cymru gyfan.<\/p>\n<p>Y gwaith hwn yw\u2019r cam cyntaf yn y gwaith pwysig i gynyddu amrywiaeth yn ein gweithlu addysg.<\/p><\/blockquote>\n<h3><strong>Gwobr Betty Campbell MBE<\/strong><\/h3>\n<p>Cyhoeddodd y Gweinidog wobr newydd hefyd yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru eleni. Bydd Gwobr Betty Campbell, am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Duon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol, yn cael ei dyfarnu i unigolyn, t\u00eem neu ysgol sydd wedi dangos ymwybyddiaeth ragorol o bwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant yn yr ystafell ddosbarth.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r wobr yn anrhydeddu&#8217;r ddiweddar Betty Campbell MBE, cyn bennaeth yn Ysgol Gynradd Mount Stuart a&#8217;r pennaeth du cyntaf yng Nghymru.<\/p>\n<p>Dywedodd Elaine Clarke, merch Mrs Campbell:<\/p>\n<blockquote><p>Mae\u2019r teulu\u2019n hynod falch a breintiedig o gael y categori newydd yma yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru, wedi\u2019i enwi ar \u00f4l ein mam, a fydd yn cael ei chofio mewn ffordd mor hyfryd ac eiconig.<\/p>\n<p>Roedd ein mam yn angerddol iawn am addysg ac arloesi yn y cwricwlwm, a oedd yn sicrhau bod plant yn cael cyfle i fwynhau a chofleidio profiadau cyfoethog, gan adlewyrchu eu hunaniaeth aml-ethnig a\u2019u hysbrydoli i gyflawni eu breuddwydion. I Betty, roedd yr amhosibl bob amser yn bosibl.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Wobr yn ffordd hyfryd o hyrwyddo cynhwysiant yr holl grwpiau Duon, Asiaidd a lleiafrifol ac rydym yn si\u0175r y bydd y rhai fydd yn ei derbyn yn parhau i gael eu hysbrydoli, ac yn ysbrydoli cenedlaethau\u2019r dyfodol, yn \u00f4l troed ein mam.<\/p><\/blockquote>\n<p>Dywedodd yr Athro Charlotte Williams OBE, sy&#8217;n cadeirio&#8217;r gweithgor ar Gymunedau Duon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, Cyfraniadau a Chynefin yn y Cwricwlwm i ysgolion:<\/p>\n<blockquote><p>Rwy\u2019n falch iawn o weld lansiad y wobr newydd hon. Rwy&#8217;n gobeithio y bydd yn ysgogi ysgolion i feddwl am ffyrdd arloesol a dychmygus o gynrychioli&#8217;r them\u00e2u hyn yn y cwricwlwm newydd.<\/p>\n<p>Mae amrywiaeth yn thema ganolog a thrawsbynciol yn y cwricwlwm newydd. Bydd y wobr hon yn annog ysgolion i feddwl yn strategol am sut gallant ymgorffori&#8217;r dimensiwn pwysig hwn ym mhopeth maent yn ei wneud.<\/p>\n<p>Mae lansiad y wobr hon yn arwydd clir bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn gyflym i argymhellion yr adroddiad Gweinidogol ar amrywiaeth yn y cwricwlwm newydd.<\/p><\/blockquote>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Daw hyn fel rhan o gynllun ehangach a gyhoeddwyd ar 22 Hydref 2021 a fydd yn canolbwyntio ar gynyddu amrywiaeth y newydd-ddyfodiaid i gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon. Canfu\u00a0Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg\u00a0mai dim ond 1.3% o athrawon ysgol yng Nghymru a nododd eu bod o gefndir ethnig lleiafrifol, o gymharu \u00e2 12% o ddysgwyr. Bydd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":1221,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1220","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1220","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1220"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1220\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1222,"href":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1220\/revisions\/1222"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1221"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1220"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1220"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sewaleseas.org.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1220"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}