Gofyniad allweddol y GCA yw arddangos yn flynyddol ei fod yn cynnig gwerth am arian i’r pum awdurdod lleol cartref sy’n rhan o’r GCA.

Mesur yw Gwerth am Arian, neu gost-effeithiolrwydd, o ba mor dda mae adnoddau’n cael eu defnyddio i gyflawni deilliannau bwriadedig. Gwerth am arian yw’r defnydd optimaidd o adnoddau i gyflawni deilliannau bwriadedig. Fel arfer caiff GaA ei fesur drwy ystyried y canlynol:

  • Economi: lleihau cost yr adnoddau a ddefnyddir gan ystyried ansawdd (mewnbynnau) – gwario llai.
  • Effeithlonrwydd: y berthynas rhwng allbynnau a’r adnoddau a ddefnyddir i’w cynhyrchu – gwario’n dda.
  • Effeithiolrwydd: y graddau y caiff yr amcanion eu cyflawni (deilliannau) – gwario’n ddoeth.
  • Ecwiti: y graddau y mae darpariaeth y gwasanaeth yn seiliedig ar anghenion i ddiddymu rhwystrau a hwyluso cyfle cyfartal – gwario’n deg.

Gwefan wedi’i dylunio a’i datblygu gan Spindogs