Cwmni cyfyngedig nid er elw dan warant yw’r GCA, a’r gwarantwyr yw’r pum Awdurdod Lleol.
Mae’r GCA yn gweithredu o fewn strwythur llywodraethu cadarn sydd wedi’i boblogi gan Aelodau Etholedig cynrychioladol o bob Awdurdod Lleol. Mae’r aelodau hyn yn ffurfio Bwrdd y Cwmni, y Cyd-grŵp Gweithredol a’r Pwyllgor Archwilio Sicrwydd Risg.
Sefydlwyd y GCA yn 2012 ac mae wedi mynd drwy lawer o newidiadau yn ystod y cyfnod hwn. Drwy gomisiynu Cynllun Busnes blynyddol wedi’i gytuno’n ffurfiol gan bob Awdurdod Lleol, mae’r GCA yn cyflwyno gwelliant ysgol allweddol i gefnogi’r holl ysgolion a lleoliadau addysgol ar draws rhanbarth de-ddwyrain Cymru.
Mae’r GCA yn ceisio gweithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau a rhanddeiliaid ehangach, gan sicrhau bod cyflwyniad gwasanaethau o safon uchel barhaus ac yn diwallu anghenion y system. Mae’r gwasanaeth yn croesawu arbenigedd a her allanol i gefnogi gwelliant parhaus a bydd yn parhau i fod yn hyblyg ac yn ymatebol i angen rhanbarthol a lleol.
Ein gweledigaeth a’n gwerthoedd yw sail ein holl waith a’n camau gweithredu. Byddant yn weladwy yng ngweithgareddau beunyddiol yr holl bartneriaethau a pherthnasoedd yn y GCA.
Mae ein gweledigaeth a’n gwerthoedd yn arwain popeth rydym yn ei wneud yn ein harferion a’n rhyngweithiadau beunyddiol gyda’n partneriaid allweddol, y gymuned addysgol ehangach a’n gweithwyr.
Bydd yr holl ysgolion yn gallu cael mynediad i gynnig cyffredinol o gymorth dysgu proffesiynol ym mhob un o’r ardaloedd canlynol: Gwella Ysgol, Dysgu ac Addysgu, y Cwricwlwm i Gymru, Iechyd, Llesiant ac Ecwiti a Llywodraethwyr Ysgol sy’n gysylltiedig yn gynhenid. Yn ogystal â chynnig dysgu proffesiynol holistig, bydd hyn yn cynnwys nifer penodol o ddiwrnodau i weithio gyda’i Bartner Gwella Ysgol (PGY) a deialog broffesiynol gyda’r GCA a’r awdurdod lleol i gytuno a/neu ddiwygio blaenoriaethau gwella a gofynion cymorth fel rhan o drafodaeth broffesiynol flynyddol.
Yn ogystal â’r cynnig cyffredinol, bydd ysgolion yn gallu cael mynediad i gymorth penodol ac wedi’i dargedu fel a benderfynir drwy drafodaeth broffesiynol barhaus gyda’u PGY ac yn unol â’u blaenoriaethau gwella ysgol. Gall y cymorth dysgu proffesiynol ymwneud â gweithgaredd tasg a gorffen, opsiwn ar gyfer rhagor o waith gyda’u PGY neu opsiwn ar gyfer gweithio gyda chyfoedion.
Bydd cymorth unigryw hefyd ar gael i ysgolion y mae angen mwy o gymorth dwys arnynt. Gallai hyn gynnwys mwy o gymorth gan y PGY neu’r defnydd o Bartneriaeth Ysgol i Ysgol y Rhwydwaith Dysgu.