Recriwtio clercod

i Gyrff Llywodraethu

Dyddiad cau: 31st March 2026

Mae'r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) eisiau penodi clercod i gyrff llywodraethu mewn nifer o ysgolion ledled y rhanbarth

  • Oes gennych chi ddiddordeb yn y ffordd mae Cyrff Llywodraethu yn
    cefnogi gwaith ysgolion?
  • Hoffech chi gael incwm ychwanegol am waith hwyr y prynhawn / gyda’r
    nos o’ch cartref?
  • Hoffech chi ddatblygu eich sgiliau proffesiynol ac ychwanegu at eich CV?
  • Oes gennych chi’r gallu i wrando, gwneud nodiadau mewn cyfarfodydd a dysgu sgiliau TG newydd?

Os felly, mae hwn yn gyfle cyffrous i gefnogi cymuned eich ysgol leol.

Mae’r rôl yn cynnwys mynychu hyd at chwe chyfarfod corff llywodraethu bob blwyddyn ysgol sydd wedi’u clercio. Gan ddibynnu ar ddewis yr ysgol, gall cyfarfodydd fod wyneb yn wyneb, yn rhithwir drwy Microsoft Teams, neu’n gymysgedd o’r ddau fformat. Disgwylir i glercod fynychu cyfarfodydd ym mha fformat bynnag y mae’r ysgol yn gofyn amdano. Rôl y clerc ym mhob cyfarfod yw llunio cofnodion drafft o’r trafodaethau a gafwyd/penderfyniadau a wnaed, ac i ddarparu arweiniad ar weithdrefnau yn ôl yr angen.

Manylion Swyddi Gwag

Dyddiad Cychwyn: Hyblyg

Hyd: Parhaus

Cyflog: £85 y cyfarfod corfforol, £75 y cyfarfod rhithwir.

Gwefan wedi’i dylunio a’i datblygu gan Spindogs