Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu proffesiynol i gefnogi’r holl staff gan gynnwys arweinwyr, athrawon a’r rheiny sy’n cynorthwyo athrawon ar eu llwybrau gyrfa sy’n helpu i ddatblygu gweithlu o safon.
Mae’r cynnig proffesiynol rhanbarthol yn cefnogi gwireddu’r Cwricwlwm i Gymru, yn cefnogi datblygiad dimensiynau ysgolion fel sefydliadau dysgu a’r trefniadau safonau ac asesu addysgu ac arweinyddiaeth. Mae’n canolbwyntio ar y pedwar nod galluogi allweddol cenedlaethol canlynol: Datblygu proffesiwn addysg o safon; Arweinwyr ysbrydolgar yn gweithio ar y cyd i godi safonau; Ysgolion cryf a chynhwysol sy’n ymrwymedig i ragoriaeth; a threfniadau asesu, gwerthuso ac atebolrwydd cadarn sy’n cefnogi system hunanwerthuso.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan cefnogi ein Hysgolion i gael amrywiaeth o wybodaeth, arweiniad ac adnoddau i ymarferwyr ar draws y rhanbarth.