Rydym yn darparu cymorth i lywodraethwyr ysgol, penaethiaid ac awdurdodau lleol ar gyfer trefnu a rheoli cyrff llywodraethu. Rydym yn darparu cyngor ac arweiniad ar sut gall cyrff llywodraethu fodloni eu cyfrifoldebau statudol a mynd i’r afael â blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion.
Rydym yn cynnig gwasanaeth clercio i’r holl ysgolion yn y rhanbarth drwy Gytundeb Lefel Gwasanaeth a Rhaglen Datblygu Proffesiynol sy’n cefnogi llywodraethwyr i gyflawni eu rôl a deall datblygiadau addysgol yng Nghymru.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn llywodraethwr, neu os ydych am gael rhagor o wybodaeth am waith cyrff llywodraethu, ewch i’n gwefan i lywodraethwyr. Mae’n cynnwys amrywiaeth eang o wybodaeth, arweiniad ac adnoddau defnyddiol, yn ogystal â dolenni i ragor o gyfleoedd hyfforddiant i lywodraethwyr ar draws y rhanbarth.