Fel timau cymorth pwnc, rydym yn gweithio gydag ymarferwyr mewn ysgolion i gyflenwi cymorth i ysgolion ar draws amrywiaeth o feysydd y cwricwlwm. Rydym yn credu mewn gwella profiadau dysgu drwy gydweithio a llywio cymorth unigryw i ysgolion ynghyd ag Ysgolion y Rhwydwaith Dysgu.
Arweinir dysgu proffesiynol gan dimau mewn partneriaeth ag ysgolion ar draws y rhanbarth i lywio ffocws ar ddylunio’r cwricwlwm, addysgu, arloesi ac arweinyddiaeth, yn unol â’r Cwricwlwm i Gymru. Fel rhan o’n cymorth rydym yn cynnal amrywiaeth eang o gyfarfodydd rhwydwaith i arweinwyr y cwricwlwm, er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ddiwygio cwricwlwm Cymru a rhannu arfer newydd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan Cefnogi ein Hysgolion i gael gwybodaeth, arweiniad ac adnoddau i ymarferwyr ar draws y rhanbarth.