Y Cwricwlwm i Gymru

Caiff y Cwricwlwm Newydd i Gymru ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2020 a bydd yn ofyniad statudol i ysgolion o fis Medi 2022.

Bydd y cwricwlwm newydd yn dynodi ymadawiad sylweddol o adrifiadau blaenorol y Cwricwlwm Cenedlaethol oherwydd ei fod yn cael ei ddatblygu gan ddiben, sy’n golygu y dylai’r holl brofiadau dysgu gael eu cynllunio i gefnogi datblygiad pedwar diben (isod) mewn dysgwyr – mae’r Cwricwlwm wedi’i ddylunio i fod yn gontinwwm o ddysgu o 3-16 oed.

Caiff y Cwricwlwm newydd i Gymru ei drefnu mewn 6 Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) (yn lle’r 13 o bynciau Cwricwlwm Cenedlaethol presennol), wedi’u seilio gan Gyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd Llythrennedd, Rhifedd, Cymhwysedd Digidol a’r Sgiliau Ehangach. Ym mhob MDPh bydd datganiadau o’r ‘Hyn sy’n Bwysig’, gyda sail resymegol cefnogol. Bydd yr ‘Hyn sy’n Bwysig’ (gydag arweiniad cefnogol atodol) yn helpu ysgolion i nodi gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau allweddol y dylai pobl ifanc eu cael ar draws y continwwm.

Bydd pob MDPh yn cynnwys naratif cynnydd, gyda ‘disgrifwyr dysgu’ i gefnogi ysgolion i gynllunio ar gyfer datblygiad dysgwyr ar bob cam cynnydd (5, 8, 11, 14 ac 16 oed) ar draws y continwwm, O’r disgrifiadau dysgu hyn y bydd ymagwedd pob ysgol at asesu’n cael ei datblygu.

Bydd arweiniad hefyd i gefnogi datblygiad y cwricwlwm mewn ysgolion.

Camdybiaethau

Mae nifer o gamdybiaethau wedi codi wrth i’r cwricwlwm ddatblygu. Bydd y blogiau canlynol, sydd wedi’u llunio gan ein staff, yn ddefnyddiol wrth geisio chwalu’r mythau hyn:

Chwalu’r Mythau – Rhan 1

Chwalu’r Mythau – Rhan 2

 

Dysgu Proffesiynol

Bydd gwireddu’r Cwricwlwm i Gymru’n gofyn am raglen dysgu proffesiynol barhaus a sylweddol ar draws y rhaglen rhwng mis Ionawr 2020 a mis Medi 2022 i gefnogi ysgolion i baratoi. Mae rhaglen genedlaethol gyffredinol o ddysgu proffesiynol yn cael ei datblygu ym mhedwar consortia rhanbarthol Cymru, mewn partneriaeth ag arweinwyr ysgol, athrawon a’n SAU cyswllt.

Bydd yr holl ddeunyddiau dysgu proffesiynol hefyd ar gael drwy e-ddysgu ar ein llwyfan Thingi rhanbarthol.

Arweiniad Cynllunio Datblygu Ysgolion

Rydym wedi datblygu’r arweiniad i gefnogi Penaethiaid.

Gwefan wedi’i dylunio a’i datblygu gan Spindogs