Gwasanaeth addysg integredig yw'r GCA sy'n cefnogi ac yn herio ysgolion yn Ne-ddwyrain Cymru i geisio rhagoriaeth.
Yn gweithio gyda chynghorau Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen, ein nod yw gwella addysg a gwella gwasanaethau rheng flaen.
Caiff hyn ei gyflawni drwy ganolbwyntio ar wella, newid, cefnogaeth a hyfforddiant ac mae'r gwaith wedi'i seilio ar werthoedd craiff rhagoriaeth, arloesedd, uniondeb, cydweithio ac atebolrwydd.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gydag ysgolion a lleoliadau ar draws y rhanbarth i wella deilliannau i blant a phobl ifanc.
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ddysgu proffesiynol i gefnogi’r holl staff, gan gynnwys arweinwyr, athrawon a chynorthwywyr addysgu ar eu llwybrau gyrfa sy’n helpu i ddatblygu gweithlu o safon.
Rydym yn ceisio rhagoriaeth yn barhaus drwy herio a chael sgyrsiau cefnogol gyda’n hysgolion a’n hathrawon.
Rydym yn credu bod yn rhaid parchu a herio pob dysgwr i gyflawni’r gorau y bo modd iddo ei gyflawni. Mae plant a dysgwyr ifanc sydd â pherthnasoedd cryf ac ymdeimlad cadarnhaol o’u hunain, syn gallu deal a rheoli eu hiechyd a;u hemosiynau eu hunain ac sy’n gallu cyflawni lefel uchel o wydnwch mewn sefyllfa well i gyflawni eu potensial llawn yn y dyfodol.