Cyfarwyddwyr Anweithredol

Dyddiad cau: 31st May 2024

Rydym ni’n sefydliad uchelgeisiol ac rydym ni bellach yn chwilio am bob newydd i ymuno â’n Bwrdd a’n helpu i gyflawni ein nodau. Rydym ni’n chwilio’n benodol am bobl sydd â chefndir fel uwch arweinyddion a all gynnig treiddgarwch strategol a herio ein meddylfryd mewn modd adeiladol.

Mae’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (y GCA) yn darparu gwasanaethau gwella ysgolion ar ran pum Awdurdod Lleol yn Ne Ddwyrain Cymru. Ein gweledigaeth yw sicrhau fod arweinyddiaeth a darpariaeth mewn ysgolion a lleoliadau ar draws y rhanbarth yn rhagorol, er mwyn ysbrydoli a chymell ein holl bobl ifanc i wneud ein gorau glas. Rydym yn cydweithio ag amrywiaeth o arweinyddion ysgolion i sicrhau fod ein hysgolion a’n lleoliadau yn cael eu harwain yn dda a’u bod yn darparu’r hinsawdd gorau posibl i sicrhau rhagoriaeth o ran addysgu a dysgu.

Byddai cefndir addysgol yn ddefnyddiol ond nid yn hanfodol, rydym ni’n chwilio am brofiad ym meysydd AD a’r Gyfraith, gyda ffocws penodol ar Reoli Newid.

Rydym yn cynnig rhaglen cynefino lawn a hyfforddiant rheolaidd ynghylch pob agwedd o lywodraethu, yn ogystal â mentora, arweiniad ac adborth gan Gadeirydd y Bwrdd.. Mae’r gwaith yn ddi-dâl (byddwn yn talu costau teithio sy’n ymwneud yn benodol â’r gwaith) a disgwylir y byddwch chi’n dangos diddordeb rheolaidd yn ein gwaith, yn paratoi at gyfarfodydd y bwrdd ac yn eu mynychu, a chyfarfodydd a hyfforddiant ad hoc fel sy’n ofynnol..

Cynhelir cyfarfodydd y bwrdd bob chwarter, ac felly, mae’n annhebygol y bydd yr ymroddiad amser sy’n ofynnol yn fwy na chwe diwrnod y flwyddyn. Mae’r rhain yn rhithiwr yn bennaf trwy gyfrwng Microsoft Teams.

Bydd y penodiad yn para blwyddyn yn y lle cyntaf gyda chyfle i ymestyn, yn dibynnu ar berfformiad ac anghenion y Bwrdd. Rydym ni’n awyddus i sicrhau fod gennym ni gydbwysedd priodol o ran sgiliau ymhlith aelodau’r Bwrdd, felly penodir cyfarwyddwyr er mwyn gwella’r rhinweddau sydd gennym ni, ac nid gallu personol fydd y dylanwad mwyaf ar y penderfyniad o reidrwydd.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â Geraint Willington trwy e-bostio Geraint.Willington@sewaleseas.org.uk.

Sut i Wneud Cais
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymgeisio, llwythwch becyn ymgeisio i lawr. Pecyn cais.

Cynllun Busnes: BP 2023-2025 final version June 23

Dyddiad Cau: Hanner dydd, 31 Mai 2024.

Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Caiff pob cais ei drin yn gyfartal. Mae’r Gwasanaeth Cyflawni Addysgu wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles pobl ifanc. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn fodlon cael eu sgrinio mewn perthynas ag amddiffyn plant mewn modd sy’n briodol i’r swydd, yn cynnwys gwiriadau â chyn-gyflogwyr a gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Manylion Swyddi Gwag

Dyddiad Cychwyn: Mor fuan â phosib

Hyd: Parhaus

Cyflog:

Gwefan wedi’i dylunio a’i datblygu gan Spindogs