Medi 12th 2024
Mae Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad ag ystod eang o randdeiliaid, wedi datblygu rhaglen CPCP newydd.
Bydd fersiwn beilot o’r rhaglen newydd hon yn digwydd ar ddechrau tymor y gwanwyn 2025.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd ceisiadau gan arweinwyr ysgol, sy’n barod am brifathrawiaeth, i gymryd rhan yn y rhaglen beilot hon. Bydd y gwahoddiad hwn yn ymddangos yng nghylchlythyr Dysg ac i’w weld ar lwyfan Hwb o’r 9fed i’r 30ain o Fedi 2024.
Am ragor o fanylion a’r ffurflen gais, cliciwch ar y ddolen Hwb isod.
National Professional Qualification for Headship – Hwb (gov.wales)