Ceisiadau’n agor – 20fed o Fehefin 2022
Mae’r rhaglen datblygu 1-flwyddyn hon yn gyfle dysgu proffesiynol cyffrous ar gyfer arweinwyr ysgol profiadol o bob cwr o Gymru sy’n dymuno bod yn benaethiaid yn y dyfodol agos. Mae cwblhau’r rhaglen hon yn ddisgwyliad ar gyfer pob ymgeisydd CPCP y dyfodol.
Darperir y rhaglen genedlaethol hon gan y Consortia Rhanbarthol a’u partneriaid, sy’n cynnwys Awdurdodau Lleol. Mae’r rhaglen hon wedi’i chymeradwyo gan Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol.
Y Gynulleidfa
Bydd y rhaglen hon ar gael i bob arweinydd ysgol profiadol sy’n credu ei fod yn arddangos cyrhaeddiad yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Dysgu & Arweinyddiaeth ac sy’n ystyried prifathrawiaeth fel cam nesaf realistig.
Diben
Mae’r rhaglen yn hyrwyddo arweinyddiaeth hynod o effeithiol trwy hunanwerthuso a myfyrio, gan archwilio’r berthynas rhwng arweinyddiaeth, ysgolion llwyddiannus a’r gymuned ehangach. Bydd yn sicrhau tegwch o ran mynediad ar gyfer ymarferwyr ledled Cymru, ynghyd â chynnydd yn nifer yr ymgeiswyr o safon uchel am swyddi penaethiaid mewn ysgolion.
Bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd â gweithgareddau cyfoethogi sy’n adeiladu ar brofiad blaenorol, a hynny er mwyn meithrin:
Bydd y rhaglen yn galluogi’r cyfranogwyr i fyfyrio ar eu harfer proffesiynol eu hunain, ac i sicrhau eu bod wedi paratoi’n dda wrth ymgeisio i ymgymryd ag asesiad ffurfiol ar gyfer y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP).
Dull darparu
Cynhelir y rhaglen dros gyfnod o flwyddyn, ac mae’n gofyn am ymrwymiad sy’n gyfwerth â phum niwrnod rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr.
Gallai’r rhaglen gael ei darparu trwy fodel dysgu cyfunol.
Darperir yr holl weithgareddau o fewn y rhaglen hon yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog.
Dyrennir Hyfforddwr Arweinyddiaeth i bob ymgeisydd, ynghyd ag aelodaeth o grŵp cyfoedion fel cefnogaeth trwy gydol y rhaglen.
Region | Co-ordinator | Contact |
CSC | Emma Coates
Alison Tovey |
Emma.coates@cscjes.org.uk |
EAS | Adelaide Dunn
Deb Woodward |
Adelaide.Dunn@sewaleseas.org.uk |
GwE | Rhys Williams
Ann Grenet |
cpcp@gwegogledd.cymru |
Partneriaeth | Rob Phillips
Hazel Faulkner |
phillipsr145@hwbcymru.net |
Partneriaid Addysg Canolbarth Cymru | Sarah Perdue | sarah.perdue@powys.gov.uk |
Amser | Gweithgaredd |
Cyn y Rhaglen | Hunan-adolygiad yn erbyn y Safonau Arweinyddiaeth (ISSR) |
Ffurflen gais | |
Modiwl Datblygu 1 – Gwneud Gwahaniaeth
|
· Trosolwg o’r Rhaglen, gan gynnwys rôl yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth a rhwydweithio
· Rôl y Pennaeth · Ble’r ydym ni? – cyd-destun addysg yng Nghymru · Gweledigaeth – beth yw eich gweledigaeth? Datblygu gweledigaeth a rennir. · Cynllunio Strategol – Adolygiad Hunanwerthuso a’r Rhaglen Gwella Ysgol · Tasg Profiad Arweinyddiaeth |
Modiwl Datblygu 2 – Arweinyddiaeth (i) | · Beth yw arweinyddiaeth effeithiol?
· Pa fath o arweinydd ydw i? · Timau Effeithiol · Adnoddau Dynol |
Modiwl Datblygu 3 – Arweinyddiaeth (ii)
|
· Dulliau Arwain – Cydweithredol, Gwasgaredig, Trawsnewidiol, Sefyllfaol
· Rheoli Newid · Iechyd a Diogelwch |
Modiwl Datblygu 4 – Arwain Addysgeg
|
· Rôl y Pennaeth mewn Addysgu a Dysgu
· Sicrhau Ansawdd · Defnyddio Data · Mesur ac Adrodd ar Effaith · Rheoli adnoddau, gan gynnwys Cyllid |
Modiwl Datblygu 5 – Datblygu gweithlu’r ysgol yn effeithiol
|
· Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu
· Cynnal diwylliant cydweithredol yn yr ysgol a thu hwnt iddi · Cefnogi twf mewn eraill · Meithrin ac arwain diwylliant o arloesedd · Atebolrwydd eich hun ac eraill, gan gynnwys datblygu dulliau llywodraethu effeithiol · Diogelu |
Ymgeisio (Cyn 1yp ar 27/10/22)
Croesewir ceisiadau gan uwch arweinwyr ysgolion ledled Cymru, sydd wedi profi eu gallu, sy’n credu eu bod yn arddangos cyrhaeddiad yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu & Arweinyddiaeth a bod prifathrawiaeth yn gam nesaf realistig ar eu cyfer.
Ffurflen Gais
Dylai ceisiadau am y rhaglen hon gael eu hardystio gan Bennaeth eich ysgol neu gan eich rheolwr llinell, yn dilyn trafodaeth broffesiynol yn seiliedig ar gwblhau Adolygiad o Safonau Arweinyddiaeth (ASA).
Noder: Cais ar gyfer CPCP yw’r canlyniad disgwyliedig ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglen hon.
Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod y canlyniad ar 08/12/22:
Mae’r ffurflen gais ar gael yma.