Awst 20th 2020
Hoffai’r GCA longyfarch pob dysgwr Blwyddyn 11 yn gynnes ar eu cyflawniadau yn arholiadau eleni. Mae eleni wedi dwyn heriau newydd a dymunwn gydnabod ymdrechion sylweddol a wnaed gan ddysgwyr a’r gefnogaeth a gawsant gan eu teuluoedd a’u hysgolion.
Hoffem ddymuno’r gorau i’n holl ddysgwyr yn eu camau nesaf a’u cynghori i siarad â’u hysgolion am yr ystod eang o gyfleoedd dysgu ôl-16 sydd ar gael iddynt.
Mae eleni wedi cyflwyno heriau newydd sylweddol i ddysgwyr ac ysgolion ac mae’r GCA wedi cefnogi awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau trwy gydweithredu a gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni’r canlyniadau gorau posibl yn ystod y pandemig cyfredol.