Canlyniadau TGAU a chymwysterau Lefel 2 eraill

Awst 24th 2023

Hoffai’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (y GCA) longyfarch yr holl ddysgwyr ar eu cyflawniadau yn arholiadau TGAU a chymwysterau Lefel 2 eraill eleni. Hoffem ddymuno’n dda i’r holl unigolion ifanc ar gyfer y dyfodol a chydnabod y cymorth maent wedi’i dderbyn gan eu hysgolion, eu teuluoedd ac awdurdodau lleol.

Hoffem annog yr holl ddysgwyr i geisio cyngor ac arweiniad ar yr amrywiaeth eang o gyfleoedd ôl-16 sydd ar gael iddynt. Rydym yn dymuno’n dda i’n holl ddysgwyr ar gyfer eu camau nesaf!

Rhannu’r post hwn

Gwefan wedi’i dylunio a’i datblygu gan Spindogs