Mai 04th 2020
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru yn falch o gyhoeddi cynnig i ysgolion i fod yn rhan o Ysgolion Creadigol Arweiniol ar-lein.
Mae’r cynllun arloesol hwn sydd, hyd yma wedi gweithio gyda thros 600 o ysgolion ledled Cymru, wedi cael ei ail-greu fel cyfle ar-lein. Bydd yn parhau i ddarparu cyfleoedd i athrawon a dysgwyr archwilio creadigrwydd ar draws pob maes dysgu, a thrwy dynnu ar sgiliau a gwybodaeth ein Arweinwyr Creadigol presennol.
Mae’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yn rhoi cyfle i archwilio dulliau creadigol o addysgu a dysgu gyda chefnogaeth Arweinwyr Creadigol.
Mae pob prosiect yn unigryw ac wedi’u cynllunio i helpu i fynd i’r afael â heriau penodol, a heriau y gallai ysgolion a dysgwyr fod yn eu hwynebu sydd fel arfer wedi’u nodi yng nghynllun datblygu’r ysgol. Mae’n meithrin creadigrwydd dysgwyr a chodi cyrhaeddiad sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, sef Llythrennedd, Rhifedd a lleihau effaith amddifadedd. Yn ogystal, mae’r cynllun wedi cefnogi ysgolion i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.
Cynnig ar-lein Ysgolion Creadigol Arweiniol – Beth allwch ddisgwyl
Prosiect pwrpasol wedi’i deilwra i’ch dysgwyr yn y cyfnod hwn
Rydym yn rhagweld bydd y prosiect yn cynnwys rhwng 3 a 4 sesiwn ar-lein dros gyfnod o dair wythnos. Bydd y prosiect yn cefnogi disgyblion i ddatblygu a rhannu eu dysgu rhwng sesiynau mewn ffyrdd dychmygus a chreadigol.
Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys manylion am sut i wneud cais, cliciwch yma https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/ysgolion-creadigol-arweiniol-ar-lein-galwad-ar-ysgolion-i-gymryd-rhan