Mehefin 29th 2020
Gan adeiladu ar y canllawiau dysgu a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru [https://llyw.cymru/diogelu-addysg-canllawiau-ar-ddysgu-dros-dymor-yr-haf], mae’r arweiniad hwn yn nodi’r arfer gorau a’r dulliau dysgu cyfunol gorau i gefnogi ymarferwyr. Dylai lleoliadau ac ysgolion adeiladu ar eu strategaethau dysgu o bell, a bydd angen iddynt gael mynediad at gefnogaeth gan gonsortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol wrth iddynt ddatblygu eu dulliau dysgu cyfunol.