Enghreifftiau o ddulliau o bennu graddau ar gyfer ysgolion a cholegau

Mawrth 17th 2021

Atodir dolen at y wybodaeth a ddatblygwyd yn ddiweddar ar Hwb sy’n darparu mynediad at enghreifftiau a deunyddiau adnoddau eraill yn dangos sut mae ysgolion a cholegau gwahanol yn cynllunio eu dull o bennu graddau gan ganolfannau. Darparwyd yr enghreifftiau hyn gan arweinwyr ysgolion a cholegau sy’n aelodau o’r Grŵp Ymgynghorol Dylunio a Darparu, ac fe wnaethant eu rhannu â’r bwriad o gynorthwyo arweinwyr ysgolion a cholegau i ddatblygu dulliau i gynorthwyo i gyflawni graddau a bennir gan ganolfannau eleni. Caiff yr adnoddau eu diweddaru ac ychwanegir atynt wrth i ysgolion a cholegau weithredu eu dulliau ynghylch graddau a bennir gan ganolfannau.

Mae’r wefan yn croesawu awgrymiadau ac enghreifftiau eraill i’w hamlygu a gellir e-bostio’r rhain at Quals2021DDG@gov.wales.

https://hwb.gov.wales/professional-development/centre-determined-grades-for-schools-and-colleges-exemplars-of-approaches/

Rhannu’r post hwn

Gwefan wedi’i dylunio a’i datblygu gan Spindogs