25th 2021
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), ynghyd a’u partneriaid sef Llywodraeth Cymru, cyflogwyr, undebau llafur a chorfforaethau allweddol eraill yng Nghymru, wedi lansio’r arolwg mwyaf erioed o’r gweithlu addysg yng Nghymru.
Cafodd yr arolwg gweithlu cenedlaethol ei lansio yn Chwefror 2021 ac agor tan 9 Ebrill 2021. Mae holl ymarferwyr CGA wedi derbyn gwahoddiad i’w gwblhau. Gall wneud hynny drwy’r ddolen ganlynol: https://www.ewc.wales/aga-ews/index.php/cy/
Ar gyfer lansio’r arolwg, mae CGA wedi gweithio gyda’r partneriaid canlynol:
Caiff pob un o 80,000 o ymarferwyr cofrestredig CGA mewn ysgolion, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a gwaith ieuenctid y cyfle i ddylanwadu ar lunio polisi yng Nghymru drwy ddweud eu dweud am y prif faterion sy’n eu heffeithio, megis baich gwaith, lles, hyfforddiant ac effaith Covid-19.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:
“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn amser digynsail ar gyfer staff sy’n addysgu ein pobl ifanc a dysgwr. Rwy’n awyddus i dderbyn eu hadborth ar y materion a’r heriau maent yn eu hwynebu, felly rwy’n annog pawb i gymryd peth amser i gwblhau’r arolwg pwysig yma”.
Ychwanegodd Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn:
“Dyma’r tro cyntaf i arolwg o’r faint yma cael ei gynnal yng Nghymru, a gyda chefnogaeth gymaint o bartneriaid. Mae’n gyfle i ni ddadansoddi a chysidro rhai o’r prif faterion mae’r gweithlu’n delio gyda phob dydd”.