Rhaglen Genedlaethol i Ddatblygu Darpar Benaethiaid – paratoi ar gyfer CPCP

Ceisiadau’n agor – 20fed o Fehefin 2022

Mae’r rhaglen datblygu 1-flwyddyn hon yn gyfle dysgu proffesiynol cyffrous ar gyfer arweinwyr ysgol profiadol o bob cwr o Gymru sy’n dymuno bod yn benaethiaid yn y dyfodol agos. Mae cwblhau’r rhaglen hon yn ddisgwyliad ar gyfer pob ymgeisydd CPCP y dyfodol.

Darperir y rhaglen genedlaethol hon gan y Consortia Rhanbarthol a’u partneriaid, sy’n cynnwys Awdurdodau Lleol. Mae’r rhaglen hon wedi’i chymeradwyo gan Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol.

Y Gynulleidfa

Bydd y rhaglen hon ar gael i bob arweinydd ysgol profiadol sy’n credu ei fod yn arddangos cyrhaeddiad yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Dysgu & Arweinyddiaeth ac sy’n ystyried prifathrawiaeth fel cam nesaf realistig.

 Diben

Mae’r rhaglen yn hyrwyddo arweinyddiaeth hynod o effeithiol trwy hunanwerthuso a myfyrio, gan archwilio’r berthynas rhwng arweinyddiaeth, ysgolion llwyddiannus a’r gymuned ehangach. Bydd yn sicrhau tegwch o ran mynediad ar gyfer ymarferwyr ledled Cymru, ynghyd â chynnydd yn nifer yr ymgeiswyr o safon uchel am swyddi penaethiaid mewn ysgolion.

Bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd â gweithgareddau cyfoethogi sy’n adeiladu ar brofiad blaenorol, a hynny er mwyn meithrin:

  • eu dealltwriaeth o rôl pennaeth effeithiol
  • eu sgiliau a’u priodoleddau trwy hunan-adolygu yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth
  • eu dealltwriaeth a’u gallu i gymhwyso amrywiaeth o sgiliau arweinyddiaeth mewn modd effeithiol
  • eu sgiliau cydweithredu trwy gymryd rhan effeithiol mewn rhwydweithiau cyfoedion
  • eu gwybodaeth a’u sgiliau ar gyfer datblygu eu hysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu a sicrhau llwyddiant yr agenda ddiwygio genedlaethol

Bydd y rhaglen yn galluogi’r cyfranogwyr i fyfyrio ar eu harfer proffesiynol eu hunain, ac i sicrhau eu bod wedi paratoi’n dda wrth ymgeisio i ymgymryd ag asesiad ffurfiol ar gyfer y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP).

Dull darparu

Cynhelir y rhaglen dros gyfnod o flwyddyn, ac mae’n gofyn am ymrwymiad sy’n gyfwerth â phum niwrnod rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr.

Gallai’r rhaglen gael ei darparu trwy fodel dysgu cyfunol.

Darperir yr holl weithgareddau o fewn y rhaglen hon yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog.

Dyrennir Hyfforddwr Arweinyddiaeth i bob ymgeisydd, ynghyd ag aelodaeth o grŵp cyfoedion fel cefnogaeth trwy gydol y rhaglen.

Region Co-ordinator Contact
CSC Emma Coates

Alison Tovey

Emma.coates@cscjes.org.uk

Alison.Tovey@cscjes.org.uk

EAS Adelaide Dunn

Deb Woodward

Adelaide.Dunn@sewaleseas.org.uk

deb.woodward@sewaleseas.org.uk

GwE Rhys Williams

Ann Grenet

cpcp@gwegogledd.cymru
Partneriaeth Rob Phillips

Hazel Faulkner

phillipsr145@hwbcymru.net

hazel.faulkner@partneriaeth.cymru

Partneriaid Addysg Canolbarth Cymru Sarah Perdue sarah.perdue@powys.gov.uk

 

Amser Gweithgaredd
Cyn y Rhaglen Hunan-adolygiad yn erbyn y Safonau Arweinyddiaeth (ISSR)
Ffurflen gais
Modiwl Datblygu 1 – Gwneud Gwahaniaeth

 

·       Trosolwg o’r Rhaglen, gan gynnwys rôl yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth a rhwydweithio

·       Rôl y Pennaeth

·       Ble’r ydym ni? – cyd-destun addysg yng Nghymru

·       Gweledigaeth – beth yw eich gweledigaeth? Datblygu gweledigaeth a rennir.

·       Cynllunio Strategol – Adolygiad Hunanwerthuso a’r Rhaglen Gwella Ysgol

·       Tasg Profiad Arweinyddiaeth

Modiwl Datblygu 2 – Arweinyddiaeth (i) ·       Beth yw arweinyddiaeth effeithiol?

·       Pa fath o arweinydd ydw i?

·       Timau Effeithiol

·       Adnoddau Dynol

Modiwl Datblygu 3 – Arweinyddiaeth (ii)

 

·       Dulliau Arwain – Cydweithredol, Gwasgaredig, Trawsnewidiol, Sefyllfaol

·       Rheoli Newid

·       Iechyd a Diogelwch

Modiwl Datblygu 4 – Arwain Addysgeg

 

·       Rôl y Pennaeth mewn Addysgu a Dysgu

·       Sicrhau Ansawdd

·       Defnyddio Data

·       Mesur ac Adrodd ar Effaith

·       Rheoli adnoddau, gan gynnwys Cyllid

Modiwl Datblygu 5 – Datblygu gweithlu’r ysgol yn effeithiol

 

·       Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu

·       Cynnal diwylliant cydweithredol yn yr ysgol a thu hwnt iddi

·       Cefnogi twf mewn eraill

·       Meithrin ac arwain diwylliant o arloesedd

·       Atebolrwydd eich hun ac eraill, gan gynnwys datblygu dulliau llywodraethu effeithiol

·       Diogelu

 

Ymgeisio (Cyn 1yp ar 27/10/22)

Croesewir ceisiadau gan uwch arweinwyr ysgolion ledled Cymru, sydd wedi profi eu gallu, sy’n credu eu bod yn arddangos cyrhaeddiad yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu & Arweinyddiaeth a bod prifathrawiaeth yn gam nesaf realistig ar eu cyfer.

Ffurflen Gais

Dylai ceisiadau am y rhaglen hon gael eu hardystio gan Bennaeth eich ysgol neu gan eich rheolwr llinell, yn dilyn trafodaeth broffesiynol yn seiliedig ar gwblhau Adolygiad o Safonau Arweinyddiaeth (ASA).

Noder: Cais ar gyfer CPCP yw’r canlyniad disgwyliedig ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglen hon.

Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod y canlyniad ar 08/12/22:

Mae’r ffurflen gais ar gael yma.

Rhannwch y dudalen hon

Gwefan wedi’i dylunio a’i datblygu gan Spindogs