Mai 01st 2018
Consortia Gwella Ysgolion Rhanbarthol
Regional School Improvement Consortia
Y Llwybr at Gydweithredu Traws-ranbarthol – Mai 2018
gan Arwyn Thomas (Rheolwr Gyfarwyddwr GwE), Betsan O’Connor (Rheolwr Gyfarwyddwr, ERW), Debbie Harteveld (Rheolwr Gyfarwyddwr, EAS) a Mike Glavin (Rheolwr Gyfarwyddwr, CSC)
Cefndir
Daeth y pedwar consortiwm rhanbarthol at ei gilydd i ddechrau’r broses o gydweithredu traws-ranbarthol am y tro cyntaf ym mis Medi 2015. Roedd yn amlwg ar yr adeg hon y byddai cydweithio yn cynnig llawer o fanteision i bob un o’n rhanbarthau, ac yn fwyaf pwysig i’r holl ddysgwyr. Fodd bynnag, er ein bod yn cytuno bod cydweithredu traws-ranbarthol yn cynnig ffordd resymegol ymlaen, yn y cam hwn nid oedd yr isadeiledd ar gael i symud ymlaen mewn ffordd gyson a chydlynol.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ac roedd y rhagolygon traws-ranbarthol yn wahanol iawn. Roeddem wedi adeiladu ar yr amcan cyffredin o gydweithio, ac wedi bod yn dyst i nifer o gamau cadarnhaol ymlaen, yn ogystal â llwyddiannau arwyddocaol, gan gynnwys cynnydd cyd-brosiect y Rhaglen Diogelu Asesiadau Athrawon (STAP), Categoreiddio Cenedlaethol, a’r broses o leihau’r Grant Gwella Addysg (EIG) i ffurfio un grant. Ochr yn ochr â’r cynnydd hwn, aethom ati i gymryd camau cadarnhaol ymlaen i oresgyn y rhwystrau ymarferol i gydweithredu traws-ranbarthol, er enghraifft recriwtio rheolwr prosiectau traws-ranbarthol, a sefydlu gweithgorau traws-ranbarthol sy’n gysylltiedig â ffrydiau gwaith penodol mewn meysydd allweddol.
Ble yr ydym ni ‘nawr?
Yn allweddol, mae yna eglurder o ran y diben, a hynny ar ffurf cyd-gynllun wedi’i ddiffinio’n dda. Mae’r argymhelliad a wnaed yn adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn 2016, sef y dylai “consortia rhanbarthol gydgysylltu a chydweithio ymysg ei gilydd, gan wella cysondeb o ran ansawdd y gwasanaethau”, wedi cael ei wireddu. Rydym yn deall hyd a lled y dasg, ac wedi cynllunio ar ei chyfer. Mae pob un ohonom ni, arweinwyr y consortia, yn noddi prosiectau penodol yn y cyd-gynllun, ac yn mynd ati’n rheolaidd i rannu gwybodaeth am gynnydd y prosiectau, yn ogystal â gweithgarwch mewn meysydd eraill yn y consortia, a hynny gyda’r bwriad o ddileu dyblygu a sicrhau darpariaeth gyson, o ansawdd uchel ledled Cymru.
Mae cydweithredu traws-ranbarthol yn uchelgeisiol, ond mae ein hamcanion yn glir. Byddwn yn sicrhau dull gweithredu cynlluniedig a chyson, a fydd yn sefydlu lefelau safonol o ran disgwyliadau a gwasanaethau. Dylai pob un o’n dysgwyr, ni waeth beth yw eu hangen a’u lleoliad unigol, gael profiad dysgu sydd o’r safon uchaf ac sy’n cael effaith amlwg ar eu cyfleoedd bywyd. Y cydweithredu traws-ranbarthol yw’r sail sy’n gyrru ac yn cefnogi’r uchelgais hon.
Ein prosiectau Rhanbarthol
Mae’r cyd-gynllun yn nodi naw prosiect:
Prosiect | Trosolwg o’r Prosiect | Nodau’r Prosiect |
Mae tystiolaeth yn dangos bod baich gwaith gormodol yn effeithio ar y broses o recriwtio a chadw athrawon. Gan weithio ochr yn ochr ag Estyn, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio set glir o’r hyn y dylid ei wneud a’r hyn na ddylid ei wneud, er mwyn helpu i egluro’r disgwyliadau o ran llwyth gwaith ar gyfer yr holl athrawon ledled Cymru. Mae rhaglen hyfforddi genedlaethol wedi cael ei datblygu i gefnogi pob ysgol ar ei thaith i leihau’r llwyth gwaith, a hynny trwy uwch-sgilio athrawon er mwyn gofalu eu bod yn rhoi adborth yn y modd mwyaf effeithiol ac effeithlon posibl, gan sicrhau’r effaith orau ar gyfer y disgyblion ar yr un pryd. Trwy ymchwil, ymweliadau ag ysgolion, astudiaethau achos, gweithio mewn partneriaeth a gwrando ar ddysgwyr, mae enghreifftiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth wedi cael eu coladu i ddangos y ffordd y gall ysgolion ddatblygu eu mecanweithiau adborth i sicrhau’r effaith fwyaf ar y dysgwyr. |
|
|
Er mis Gorffennaf 2016, mae’r pedwar rhanbarth wedi bod yn cydweithredu mwy ar ddatblygu cynigion dysgu proffesiynol i arweinwyr ysgolion. Ym mis Gorffennaf 2016, dechreuodd y gwaith hwn wrth i gynnig diwygiedig gael ei lunio ar gyfer darpar benaethiaid, a hynny ar gais Llywodraeth Cymru. Lluniwyd rhaglen newydd y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP), ac fe’i diwygiwyd ers hynny. Mae cyflwyno’r Bwrdd Cysgodol ar gyfer yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (NAEL) wedi cyflymu’r cydweithio hwn, ac mae’r rhanbarthau wedi ymateb yn unol â hynny, gan gytuno i ymestyn yr elfennau cyffredin fesul cam. |
|
|
Ar hyn o bryd, mae Cymru’n ei chael hi’n anodd recriwtio athrawon i’r rolau addysgu a rolau’r penaethiaid sydd ar gael. Mae hyn, yn amlwg, yn cael effaith negyddol ar brofiad dysgwyr, ac mae iddo oblygiadau pellgyrhaeddol o ran costau, sy’n arwain at rwystr sylweddol i’r gwaith o gynnal a gwella safonau addysgu yng Nghymru. Yn y pen draw, er mwyn i’r consortia gyflawni eu hamcanion o wella ysgolion, mae’n hanfodol yr eir i’r afael â materion recriwtio a chadw, er mwyn sicrhau sylfaen gadarn ar gyfer pob menter arall. Byddai methu gwneud hynny nid yn unig yn peryglu llwyddiant prosiectau eraill, ond hefyd yn effeithio’n negyddol ar bob cam tuag at wella ysgolion yn barhaus. |
|
|
Gwella safonau mewn ysgolion yw cyfrifoldeb craidd y consortia fel y cyrff sy’n gwella ysgolion yng Nghymru. |
|
|
Sefydlwyd hyn i godi proffil y prosiectau traws-ranbarthol a gwaith trosfwaol y consortia, er mwyn meithrin dealltwriaeth a sicrhau neges gyson, a dileu dyblygu o ran ymdrech. At hynny, mae’r tîm yn gyfrifol am fynd i’r afael â materion cyfathrebu sy’n ymwneud ag effeithlonrwydd gweithredol pob prosiect traws-ranbarthol, a chyflawni anghenion cyfathrebu’r prosiectau hynny. |
|
|
Mae tîm y prosiect Dysgu Ôl-16 yn gyfrifol am gyflawni’r camau gweithredu a ddynodwyd i’r consortia, ac a nodir yn Adolygiad Llywodraeth Cymru o’r cymhwyster Safon Uwch. At hynny, mae’r tîm yn datblygu Rhaglen Arweinyddiaeth Ôl-16 pwrpasol. |
|
|
Cefnogi’r gwaith o ddatblygu a gwireddu agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, a hynny mewn modd rhagweithiol a chyson. |
|
|
Cenhadaeth sylfaenol timau’r prosiectau yw archwilio, cydlynu a lledaenu ymchwil ar y cyd, a darparu cefnogaeth ragweithiol, ganolog i raglen dysgu proffesiynol y consortia, ac i ddimensiynau model Llywodraeth Cymru, Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu. |
|
|
Sefydlu rhaglen draws-ranbarthol o ddysgu proffesiynol. |
|
Mae yna dîm prosiect â ffocws yn gysylltiedig â phob prosiect, sy’n gyfrifol am sefydlu, llunio a chyflawni’r prosiect hwnnw.
Bydd blogiau pellach yn darparu diweddariadau ar brosiectau penodol; bydd y nesaf yn canolbwyntio ar Ddatblygu Arweinwyr.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiectau, cysylltwch â: Helen Richards, Rheolwr Prosiectau Gwaith Traws-ranbarthol (E-bost: helen.richards@sewaleseas.org.uk
Ffôn symudol: 07903 546 129)