Y Rhaglen Athrawon Graddedig A Llwybrau Amgen Newydd At Addysgu

Ionawr 20th 2020

Ni fydd y Rhaglen Athrawon Graddedig ar gael yng Nghymru o fis Medi 2020 ymlaen. Mae’r Brifysgol Agored, mewn partneriaeth â’r consortia a Llywodraeth Cymru, yn gobeithio cynnig rhaglen TAR ar gyflog, wedi’i hariannu’n rhannol, y bwriedir cychwyn arni fel rhaglen beilot ym mis Ebrill 2020 (Gwyddoniaeth yn unig) cyn ei chyflwyno’n llawn ym mis Medi 2020 (pynciau â phrinder yn unig). Ar hyn o bryd, mae’r holl raglenni TAR yn ddarostyngedig i achrediad gan Gyngor y Gweithlu Addysg.

Mae rhaglen ar gyflog Partneriaeth y Brifysgol Agored yn rhaglen ddwy flynedd sydd â’r nod o gefnogi athrawon dan hyfforddiant i gyfuno cyflogaeth fel cynorthwyydd dysgu gan yr ysgol â mentora yn yr ysgol a chyfnodau dysgu ymarfer TAR penodedig, a hynny ochr yn ochr ag astudiaethau dysgu o bell ar-lein. Mae’r rhaglen yn arwain y myfyriwr i gyflawni TAR gyda Statws Athro Cymwysedig. Yn ystod y ddwy flynedd, telir ffioedd astudio’r myfyrwyr trwy gyfrwng grant hyfforddi, a bydd yr ysgol sy’n cyflogi yn cael cyfraniad cyflog gan Lywodraeth Cymru tuag at gost cyflog yr athro heb gymhwyster, a delir i fyfyrwyr mewn pynciau â phrinder.

Os bydd gan ysgol ddiddordeb mewn cefnogi myfyriwr ar gyflog, byddai’r broses recriwtio yn ceisio cyfateb athro dan hyfforddiant arfaethedig ag ysgol gyflogi (cyhyd ag y bo’r ysgol yn bodloni meini prawf ysgol gyflogi).

Rydym yn awyddus i gysylltu â graddedigion mewn Gwyddoniaeth i gymryd rhan yn y rhaglen beilot a fydd yn cychwyn fis Ebrill nesaf. Gallai’r rhain fod yn gyd-weithwyr sy’n meddu ar gymhwyster priodol ac sydd eisoes yn gweithio yn yr ysgol, er enghraifft cynorthwywyr addysgu, gweithwyr ieuenctid neu dechnegwyr gwyddoniaeth. Wrth symud ymlaen, byddwn yn ystyried recriwtio graddedigion sy’n meddu ar gymwysterau addas i lenwi’r cyrsiau cynradd ac uwchradd mewn Mathemateg, ITM, Cymraeg a Dylunio a Thechnoleg.

I gael rhagor o wybodaeth am y llwybr hwn i addysgu, ynghyd â’r llwybr TAR rhan-amser heb ei ariannu, cysylltwch â hannah.barry@sewaleseas.org.

Gwybodaeth bellach:

Rhannu’r post hwn

Gwefan wedi’i dylunio a’i datblygu gan Spindogs