Rydym yn darparu dysgu proffesiynol i’r holl ysgolion ac ymarferwyr yn y rhanbarth ar gefnogi dysgwyr o’r mwyaf difreintiedig i’r rheiny sy’n fwy abl a thalentog. Rydym hefyd yn cefnogi ysgolion wrth sicrhau bod llesiant y dysgwr wrth wraidd eu darpariaeth, gan gynnwys cyngor ac arweiniad wrth gefnogi Dysgwyr Lleiafrifoedd Ethnig, y rheiny y mae Saesneg yn Iaith Ychwanegol iddynt, ‘Plant sy’n derbyn Gofal’, y rheiny sy’n profi Profiadau Plentyndod Negyddol, a sut gall ysgolion ddatblygu eu hymgysylltiad teuluol a chymunedol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan Cefnogi ein Hysgolion i gael amrywiaeth eang o wybodaeth, arweiniad ac adnoddau i ymarferwyr ar draws y rhanbarth.