Gwella Ysgol

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gydag ysgolion a lleoliadau ar draws y rhanbarth i wella deilliannau addysgol i blant a phobl ifanc.

Mae ein dull rhanbarthol yn helpu i ymgorffori egwyddorion hunanwerthuso effeithiol ac yn darparu cymorth a her unigryw i helpu gyda gwelliannau yn unol â blaenoriaethau ysgol unigol.

Yn ogystal â’r cymorth y mae ysgolion yn cael mynediad iddo drwy eu Hymgynghorydd Gwella Ysgol, mae gan ysgolion fynediad i amrywiaeth o gymorth drwy’r cynnig dysgu proffesiynol, gan gynnwys cymorth gan ymgynghorwyr pwnc, ysgolion y Rhwydwaith Dysgu ar gyfer cymorth penodol a chymorth ehangach ar gyfer arweinyddiaeth a llywodraethu.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan Cefnogi ein Hysgolion i weld amrywiaeth eang o wybodaeth, arweiniad ac adnoddau i ymarferwyr ar draws y rhanbarth.

Gwefan wedi’i dylunio a’i datblygu gan Spindogs