Cyfle ar gael – Ymgynghorydd Her Partner (Uwchradd)

Ionawr 20th 2020

Y GCA yw’r gwasanaeth gwella ysgolion ar gyfer Awdurdodau Lleol Caerffili, Blaenau Gwent, Casnewydd, Torfaen a Sir Fynwy. Gan gydweithio â’n partneriaid allweddol, ein nod yw gweddnewid deilliannau addysgol a chyfleoedd bywyd i bob dysgwr ym mhob cwr o Dde Ddwyrain Cymru.

Fel rhan o’n gwaith, rydym ni’n defnyddio Ymgynghorwyr Her Partner i gynorthwyo ysgolion ym mhob rhan o’r rhanbarth. Cynigir rôl Ymgynghorydd Her Partner i unigolion sy’n cael eu cyflogi fel Penaethiaid ar hyn o bryd. Bydd rôl yr Ymgynghorydd Her Partner yn golygu bod Pennaeth yn cael ei ryddhau o’i ysgol am nifer penodedig o ddyddiau yn ystod blwyddyn academaidd i ddarparu her a chymorth priodol i ysgol benodedig neu ysgolion penodedig, yn unol â’r Model Cenedlaethol ar gyfer Categoreiddio.  Ad-delir am y gwaith yn unol â chyfradd ddyddiol a delir i’r ysgol berthnasol neu’r Awdurdod Lleol perthnasol ar ôl derbyn anfoneb. Oherwydd natur y trefniant, bydd angen cael caniatâd priodol gan y Corff Llywodraethu/ Awdurdod Lleol perthnasol.

Os ydych chi’n Bennaeth mewn ysgol uwchradd ar hyn o bryd ac rydych chi’n awyddus i archwilio rôl Ymgynghorydd Her Partner ymhellach, fe hoffem ni glywed gennych chi. I drafod natur y rôl a’r gofynion cysylltiedig yn fanylach, cysylltwch â Julie Wood, Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Dysgu Proffesiynol (Gwella Ysgolion) ar 01443 863145.

Rhannu’r post hwn

Gwefan wedi’i dylunio a’i datblygu gan Spindogs