Modelau Dysgu Cyfunol

Gorffennaf 24th 2020

Modelau Dysgu Cyfunol

Erbyn dechrau mis Medi, bydd Llywodraeth Cymru wedi darparu dogfennau canllaw i ysgolion fel a ganlyn:

  • canllawiau parhaus ar faterion gweithredol wrth i ysgolion ddysgu mwy am sut i weithredu mewn amgylchedd sy’n ddiogel rhag COVID;
  • modelau gweithredu penodol i gefnogi gwneud penderfyniadau ar lefel ysgol;
  • canllawiau dysgu parhaus i gefnogi Penaethiaid ac athrawon i fynd i’r afael â’r cwricwlwm newydd yn yr amodau gweithredu newydd;
  • canllawiau cwricwlwm i gefnogi gwireddu’r cwricwlwm;
  • canllawiau dysgu cyfunol a dysgu proffesiynol i gefnogi ysgolion i ddefnyddio i’r eithaf y gwersi cadarnhaol a ddysgwyd dros y misoedd diwethaf;
  • canllawiau i gefnogi rhoi’r  Rhaglen Dysgu Carlam ar waith; a
  • dogfennau a gweithgareddau i gefnogi’r drafodaeth genedlaethol am addysgeg, addysgu a dysgu.

Mae’r canllawiau hyn yn ychwanegu at  ‘Datblygu dulliau integredig i gefnogi dysgu cyfunol ar gyfer agor ysgolion yn raddol’  a gyhoeddwyd ar 29 Mehefin 2020.  Gan y bydd ysgolion ar agor ym mis Medi i bob disgybl, gellir defnyddio’r canllawiau hyn i ysgogi trafodaethau dysgu proffesiynol am:

  • ddulliau dysgu ac addysgu;
  • cynllunio profiadau dysgu ar gyfer dysgwyr;
  • cynllunio ar gyfer y dysgwyr hynny nad ydynt yn ymgysylltu’n llawn, neu’r dysgwyr hynny sy’n penderfynu nad yw dychwelyd i’r ysgol yn briodol ar hyn o bryd;
  • cyfathrebu effeithiol rhwng yr ysgol a’r cartref;
  • adborth a blaenborth effeithiol;
  • dulliau cynllunio posib a chynllunio ar gyfer gweithredu Cwricwlwm i Gymru;
  • sut i reoli dysgu cyfunol os bydd cyfnod clo arall.

Rhannu’r post hwn

Gwefan wedi’i dylunio a’i datblygu gan Spindogs