Mae ein cefnogaeth unigryw yn mynd i’r afael â’r cwricwlwm presennol gan gynnwys manylebau TGAU newydd yn ogystal â chefnogi ysgolion i weithredu’r Cwricwlwm i Gymru drwy ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol lefel uchel i annog arloesedd a chreadigrwydd ymhlith ein hymgynghorwyr. Mae’r tîm yn canolbwyntio ar wella Dysgu ac Addysgu drwy fodelu a chynllunio ar y cyd ynghyd ag asesu effeithiol. Rhoddir cefnogaeth a dargedir hefyd i arweinwyr canol ar draws y rhanbarth drwy hyfforddiant arweinyddiaeth effeithiol sy’n cynnwys meysydd megis datblygu a gweithredu gweledigaeth, systemau a strwythurau sy’n datblygu gwelliannau mewn safonau a darpariaeth a defnyddio dadansoddi data i leihau’r bylchau mewn cyflawniad yn effeithiol.