Ymagweddau at Wella Ysgolion

Gweithio gydag ysgolion

Mae Ymgynghorwyr Herio’n cefnogi’r holl arweinwyr a llywodraethwyr ysgol i’w galluogi i ymgymryd â hunanwerthusiad onest a chywir; cefnogi ysgolion i gynllunio’n effeithiol ar gyfer gwelliant.

Mae Ymgynghorwyr Herio mewn partneriaeth ag arweinwyr ysgol yn cytuno ac yn brocera cefnogaeth i fynd i’r afael ag anghenion datblygu’r sefydliad.

Mae gwaith yr Ymgynghorydd Herio wedi’i seilio gan egwyddorion cydweithio rhwng ysgolion a phartneriaid mewn system hunanwella.

Mae Ymgynghorwyr Herio’n cefnogi ysgolion wrth gryfhau ansawdd yr addysgu a’r dysgu a’r arweinyddiaeth a;u cefnogi i fod yn sefydliadau dysgu effeithiol.

Mae gan Ymgynghorwyr Herio amrywiaeth o swyddogaethau safonol i weinyddu sy’n cynnwys:

  • llunio Adroddiad Categoreiddio Cenedlaethol yr ysgol
  • cefnogi’r Corff Llywodraethu gyda Rheoli Perfformiad y Pennaeth
  • cytuno ar gynllunio grant ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion, y grant Gwella Addysg a’r Grant Dysgu Proffesiynol

Gweithio gydag Awdurdodau Lleol

Mae’r Consortiwm yn gweithio mewn partneriaeth gydag Awdurdodau Lleol i gyflwyno’r agenda Gwella Ysgol genedlaethol, i ddatblygu diwylliant dysgu ar draws ei ysgolion.

Mae’r Consortiwm yn cefnogi’r Awdurdodau Lleol wrth gynnal eu dyletswyddau statudol.

Mae’r Consortiwm yn cefnogi’r Awdurdodau Lleol wrth fonitro cyflymder cynnydd yr ysgolion hynny sy’n peri pryder.

Mae’r Consortiwm yn helpu’r Awdurdodau Lleol wrth reoli gofynion yr agenna diwygio addysg yng Nghymru.

Gweithio ar draws y Rhanbarth

Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a lleoliadau i ymgorffori egwyddorion hunanwerthuso effeithio, darparu cefnogaeth unigryw yn unol â blaenoriaethau ysgol.

Yn ystod y flwyddyn, bydd triongliant o weithgareddau ar lefelau gwahanol o’r ysgol i ddatblygu ysgolion fel sefydliadau dysgu a sicrhau’r capasiti ar gyfer gwelliant cynaliadwy.

Mae Ymgynghorwyr Herio’n cefnogi ysgolion i reoli gofynion yr agenda diwygio addysg yng Nghymru.

 

Gwefan wedi’i dylunio a’i datblygu gan Spindogs