Ein nod yw cefnogi addysgu effeithiol sgiliau iaith a llythrennedd ar draws holl feysydd y cwricwlwm a datblygu rhaglen o astudio sy’n gyfoethog, yn ddiddorol ac yn heriol. Mae’r tîm yn cefnogi cyflwyniad y Strategaeth Llythrennedd ranbarthol, y Strategaeth Addysg Gymraeg Ranbarthol a’r Strategaeth Dyfodol Byd-eang ar draws y rhanbarth. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd ar draws disgyblaethau yn unol ag ymagwedd y Cwricwlwm i Gymru at ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, rhannu ymagweddau addysgeg i gefnogi datblygiad cwricwlwm sy’n gyfoethog o ran iaith.